Papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar yr Amgylchedd Hanesyddol

Cyflwyniad

Mae amgylchedd hanesyddol Cymru yn gwneud cyfraniad hanfodol at ein hymdeimlad o hunaniaeth a lle – ac mae'n gwneud cyfraniad pwysig at ein heconomi a'n llesiant.

Mae asedau hanesyddol Cymru yn cynnwys:

Ø3 o Safleoedd Treftadaeth y Byd

Ø30,000 a mwy o adeiladau rhestredig

Ø500 o ardaloedd cadwraeth

Ø4,100 o henebion cofrestredig

Ø6 llongddrylliad hanesyddol dynodedig

Ø390 o barciau a gerddi hanesyddol cofrestredig

Ø58 o dirweddau hanesyddol cofrestredig

 

Mae Cadw, Gwasanaeth Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am ofalu am 129 o henebion ledled Cymru, a'u hagor i'r cyhoedd.  O'r rhain, mae 29 yn safleoedd wedi'u staffio ac mae'r gweddill yn safleoedd mynediad agored am ddim. Mae rôl ehangach Cadw yn cynnwys rhoi cyngor a chymorth i'r miloedd o bobl a sefydliadau ledled Cymru sy'n byw mewn adeiladau hanesyddol a henebion neu'n gofalu amdanynt – mae'r rhan helaeth o'r rhain yn eiddo preifat. Er enghraifft, yn ystod 2016/17 ystyriodd Cadw 1869 o ymgynghoriadau a cheisiadau yn ymwneud ag asedau hanesyddol dynodedig.

 

Mae Cadw hefyd yn helpu Gweinidogion i benderfynu pa asedau hanesyddol a ddylai gael diogelwch statudol, ac i ddatblygu a gweithredu strategaethau a pholisïau ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol.

 

Statws Cadw yn y dyfodol

Yn gynharach eleni, derbyniodd Ysgrifennydd y Cabinet argymhellion grŵp llywio a sefydlwyd i adolygu dyfodol gwasanaethau treftadaeth Cymru: Partneriaeth Strategol newydd a dyfodol Cadw. Roedd hyn yn cynnwys argymhelliad i ystyried opsiynau ar gyfer trefniadau llywodraethu Cadw yn y dyfodol, a phrofi'r rhain yn erbyn parhau i gadw Cadw o fewn y llywodraeth.  Sefydlwyd bwrdd prosiect yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Lywodraeth Cymru i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r prosiect ac mae'r achos busnes wedi'i ddatblygu drwy broses drylwyr a chynhwysol. Caiff y cyngor ei gyflwyno i Ysgrifennydd y Cabinet yn fuan cyn iddo gael ei ystyried gan y Cabinet wedyn.

 

Hwyluso cydweithredu o fewn y sector

Gwnaeth y grŵp llywio hefyd argymell mwy o gydweithredu rhwng ein prif sefydliadau treftadaeth gan gynnwys sefydlu Partneriaeth Strategol rhwng Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Fe'i sefydlwyd ym mis Mai 2017 ac mae'n cynnwys mewnbwn cydweithwyr TUS. Mae'r bartneriaeth yn cynnig cyfle gwirioneddol i hoelio mwy o sylw ar waith masnachol ein sefydliadau cenedlaethol a'i wneud yn gliriach, yn enwedig pan fo pwysau ar gyllid cyhoeddus.  Ar hyn o bryd, mae'n ystyried datblygu sawl menter gan gynnwys datblygu sgiliau, masnachol, a chyflawni swyddogaethau cefn swyddfa ar y cyd. 

 

Ymhlith y mentrau cydweithredol eraill mae:

 

Cydweithredu ag asedau treftadaeth yn y sector preifat

Mae'r rhan helaeth o asedau hanesyddol Cymru yn eiddo preifat. Mae Cadw yn chwarae rôl allweddol yn darparu cymorth, cyngor a gwasanaeth mentora i berchenogion a deiliaid – naill ai drwy gyswllt uniongyrchol neu drwy gyhoeddi cyngor ac arweiniad rheoli.

 

Mae Cadw hefyd yn gweithio gyda sefydliadau sy'n gyfrifol am asedau hanesyddol preifat gan gynnwys y Gymdeithas Tai Hanesyddol a'r Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad – a gynrychiolir ar y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol.

 

Un enghraifft o'r cydweithio agos rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat yw rhaglen Drysau Agored a arweinir gan Cadw ac a gynhelir bob mis Medi - y dathliad blynyddol mwyaf o bensaernïaeth a threftadaeth a gynhelir yng Nghymru sy'n cynnig mynediad am ddim i'r cyhoedd i gannoedd o eiddo hanesyddol, y mae llawer ohonynt yn eiddo preifat. 

 

Mae Cadw yn gweithio'n agos gyda Croeso Cymru i archwilio cyfleoedd newydd i hyrwyddo potensial twristiaeth yr amgylchedd hanesyddol. Bydd hyn hefyd yn un o amcanion allweddol Partneriaeth Strategol hanesyddol newydd Cymru.

 

 

Achub ar werth twristiaeth treftadaeth a gwaith Cadw i gyflawni ei dargedau cynhyrchu incwm

Mae safleoedd Cadw yn cynhyrchu incwm o'r tâl mynediad, manwerthu, aelodaeth, hurio corfforaethol a mentrau masnachol eraill. Yn 2016/17 cafodd Cadw ei flwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed, gydag 1.4m o ymwelwyr yn dod i safleoedd wedi'u staffio a £6.6m o incwm. Caiff yr arian hwn ei ailfuddsoddi yn y gwaith o ofalu am yr amgylchedd hanesyddol a'i warchod.

 

Dros y tair blynedd diwethaf mae incwm Cadw wedi rhagori ar dargedau uchelgeisiol (gweler Atodiad 1). Wrth wneud hyn, mae Cadw wedi cynnal sawl ymgyrch farchnata lwyddiannus yn annog ymwelwyr i ddod i safleoedd hanesyddol sydd dan ofal Llywodraeth Cymru, ac mae'n cynnal digwyddiadau arloesol ar ei safleoedd er mwyn denu ymwelwyr hen a newydd.

 

Er enghraifft, dechreuodd ymgyrch Anturiaethau Hanesyddol 2016 drwy gyflwyno cerflun draig mawr yng Nghastell Caerffili ar Ddydd Gŵyl Dewi. Rhagorodd yr ymgyrch ar ein holl ddisgwyliadau a thargedau, gan greu diddordeb nas gwelwyd o'r blaen a chyfrannu at flwyddyn fwyaf llwyddiannus Cadw erioed. O ddechrau'r ymgyrch i'w diwedd ym mis Medi daeth 728k o ymwelwyr oedd yn talu i holl safleoedd Cadw (+3.63% o flwyddyn i flwyddyn) gan gynhyrchu incwm o £844k (+71.47 o flwyddyn i flwyddyn).

 

Mae gwaddol y dreigiau yn parhau, gyda benyw a dau faban yn cael eu cyflwyno fel rhan o ymgyrch Chwedlau Byw gwanwyn/haf 2017. Mae'r canlyniadau hyd yn hyn yn awgrymu bod perfformiad masnachol a niferoedd ymwelwyr yn parhau i dyfu, gyda'r niferoedd mwyaf erioed yn ymweld â safleoedd ar 'daith y dreigiau'.

 

Gweithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol

Cafodd Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 Gydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016, gan sicrhau bod gan Gymru'r ddeddfwriaeth amgylchedd hanesyddol fwyaf blaengar yn y DU. Gyda'r rhan fwyaf o ddarpariaethau'r Ddeddf bellach ar waith, mae gan Gymru'r canlynol:

·         Cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol ar gyfer pob ardal awdurdod lleol

Mae'r cofnodion, a gynhelir gan y pedair ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru ar ran Gweinidogion Cymru, ar gael am ddim ar wefan Archwilio. Maent yn darparu tystiolaeth hanfodol i ategu penderfyniadau ar brosesau rheoli cynaliadwy'r amgylchedd hanesyddol ac maent yn helpu pobl i ymgysylltu â'u treftadaeth leol. Y rhain yw'r cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol cyntaf yn y DU.

·         Rhestr statudol o enwau lleoedd hanesyddol

'Cyntaf' arall i Gymru. Mae'r rhestr, sydd wedi'i llunio a'i chynnal ar ran Gweinidogion Cymru gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ar gael ar-leinneu drwy'r cofnodion amgylchedd hanesyddol. Mae wedi cael croeso gwresog a bydd yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ein henwau lleoedd hanesyddol ac yn annog pobl i barhau i'w defnyddio. Mae canllawiau statudol yn cyfarwyddo rhai cyrff cyhoeddus penodol i ystyried y rhestr wrth enwi neu ailenwi eiddo wrth gyflawni eu swyddogaethau.

·         Systemau mwy agored ac atebol ar gyfer dynodi asedau hanesyddol

Mae gofynion newydd ar gyfer cynnal ymgynghoriad ffurfiol â pherchenogion a deiliaid a hawliau adolygu wedi rhoi Cymru ar y blaen yn y DU wrth wneud y prosesau ar gyfer cofrestru heneb neu restru adeilad yn fwy tryloyw ac atebol. Yn ystod y cyfnod ymgynghori, caiff ased ei warchod dros dro fel petai eisoes wedi'i ddynodi.

·         Trefniadau newydd a gwell ar gyfer gwarchod a rheoli henebion cofrestredig

Gellir gwarchod ystod ehangach o safleoedd archaeolegol o bwys cenedlaethol bellach fel henebion cofrestredig.  Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno mesurau newydd i atal difrod i henebion cofrestredig a gorfodi eu hadfer gan ehangu pwerau erlyn presennol. Ategir y mesurau newydd hyn gan fynediad ar-lein i wybodaeth ddibynadwy am leoliad a maint henebion cofrestredig drwy Cof Cymru — Asedau Hanesyddol Cenedlaethol Cymru. Mae proses caniatâd heneb gofrestredig symlach ar gyfer gwaith nad oes dadlau yn ei gylch eisoes yn arbed amser i berchenogion a staff Cadw.

·         Mesurau newydd a gwell ar gyfer gwarchod adeiladau rhestredig

Mae awdurdodau lleol wedi cael pwerau newydd i atal gwaith heb ei awdurdodi ar adeilad rhestredig ar unwaith. Gallant hefyd wneud gwaith brys er mwyn atal unrhyw adeilad rhestredig rhag gwaethygu, ar yr amod nad ydynt yn amharu'n afresymol ar ddefnydd preswyl. Mewn ymgais i leihau'r risgiau ariannol sydd ynghlwm wrth waith brys, gall awdurdodau lleol wneud y costau yn bridiant tir lleol, codi llog ar symiau dyledus a defnyddio nifer o ddulliau casglu arian.

Mae angen i bedair darpariaeth yn y Ddeddf gael eu cyflwyno o hyd:

·         Cytundebau partneriaeth dreftadaeth (Adrannau 11 ac 28)

Bydd y cytundebau gwirfoddol hyn, sy'n helpu i reoli henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig yn gyson yn yr hirdymor, o fudd i berchenogion ac awdurdodau cydsynio drwy ymgorffori'r caniatâd angenrheidiol ar gyfer gwaith rheolaidd cytûn. Gan y bydd y cytundebau hyn ar waith am sawl blwyddyn, mae'n bwysig bod y rheoliadau a'r canllawiau cysylltiedig wedi'u sefydlu'n dda a'u bod yn ymarferol. Gan ystyried cytundebau o'r fath yn Lloegr, rydym yn chwilio am bartneriaid ar gyfer cynlluniau peilot er mwyn datblygu hyn ymhellach. Y nod yw cyflwyno'r darpariaethau yn 2018.

·         Cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol yng Nghymru (Adran 18)

Mae ffiniau 390 o barciau a gerddi ar y gofrestr anstatudol bresennol wedi'u hadolygu. Cyn i'r gofrestr statudol ddod i rym, caiff holl berchenogion a deiliaid hysbys y safleoedd hyn wybod beth yw ffiniau'r ardaloedd cofrestredig yn ystod gweddill 2017 a dechrau 2018.

·         Diogelu adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael (Adran 31)

Rhydd y ddarpariaeth hon reoliadau newydd i roi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol sicrhau y caiff adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael eu diogelu'n briodol. Fodd bynnag, bydd angen mewnbwn gan holl randdeiliaid y sector amgylchedd hanesyddol er mwyn llunio deddfwriaeth effeithiol. Er bod adeiladau rhestredig mewn cyflwr gwael yn destun pryder, mae angen i reoliadau newydd fod yn wirioneddol ddefnyddiol i awdurdodau lleol a chyfrannu'n gadarnhaol at ddatrys yr heriau cymhleth a berir gan adeiladau o'r fath. Caiff ymchwil a gomisiynwyd i lywio cynigion ar gyfer y rheoliadau ei chyhoeddi'n fuan.

·         Y Panel Cynghori ar Amgylchedd Hanesyddol Cymru (Adrannau 38 a 39)

Mae'n rhy gynnar i ystyried y trefniadau manwl ar gyfer y Panel Cynghori heb i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Cabinet orffen yr adolygiad o drefniadau llywodraethu Cadw yn y dyfodol.

O ddechrau'r broses ddeddfwriaethol, gwnaethom gydnabod y byddai angen polisi cynllunio a chyngor cyfredol ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol er mwyn adlewyrchu ac ategu darpariaethau Deddf 2016. Rydym bellach wedi cyhoeddi:

Bydd y cyhoeddiadau hyn yn helpu awdurdodau lleol, y trydydd sector, datblygwyr a pherchenogion a deiliaid i reoli'r amgylchedd hanesyddol er budd cenedlaethau presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig;

 

Yn ystod 2016 a 2017, mae cyfres o fesurau wedi neu yn cael eu cyflwyno er mwyn ategu'r gwaith o reoli a gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

Gwarchod adeiladau a henebion sydd mewn perygl;

 

Arolwg o Henebion mewn Perygl: Ers 1985 mae wardeniaid henebion maes Cadw wedi cynnal rhaglen fonitro systematig o gyflwr henebion cofrestredig, a ategir gan arolygon o luniau o'r awyr gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Fel rhan o'r arolwg, caiff tystiolaeth gadarn ei chasglu a ddefnyddir i nodi natur a graddau bygythiadau a risgiau a sicrhau mai'r henebion mwyaf bregus sy'n destun gwaith cadwraeth cadarnhaol ac yn cael grantiau.Mae hefyd yn fodd i roi cyngor a datblygu cytundebau rheoli â pherchenogion. 

 

Cyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru: Cynhaliwyd arolygon o gyflwr adeiladau rhestredig yng Nghymru ers dros 15 mlynedd ac ar hyn o bryd cânt eu cynnal dros gyfnod treigl o bum mlynedd, lle arolygir tua 20% o'r adeiladau rhestredig yng Nghymru bob blwyddyn gan ddefnyddio methodoleg gyson.  Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn awgrymu gwelliant bach gyda nifer yr adeiladau sydd 'mewn perygl' neu'n 'fregus' yn lleihau 8.54%. Mae'r arolygon yn rhoi sail dystiolaeth gadarn i awdurdodau lleol a Cadw ar gyfer strategaethau i ymdrin ag adeiladau mewn perygl, a thargedu unrhyw raglenni rhoi grantiau.

 

Rhaid cydweithredu mewn ffordd ragweithiol wrth fynd i'r afael ag adeiladau sydd mewn perygl. Er enghraifft, mae Cadw yn gweithio gydag adrannau eraill o'r llywodraeth ac awdurdodau lleol mewn amrywiaeth o fentrau adfywio trefol, ac mae'n arwain cynllun gweithredu strategol ar gyfer addoldai, y mae llawer ohonynt yn wynebu dyfodol ansicr. Mae Cadw hefyd yn cefnogi sefydliadau sy'n chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o reoli adeiladau sydd mewn perygl, megis y Rhwydwaith Ymddiriedolaethau Treftadaeth, y Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog.

 

Lle na fydd cymorth cadarnhaol yn llwyddo, ceir ystod o fesurau statudol sydd ar gael i alluogi awdurdodau lleol i gymryd camau adferol. Caiff y mesurau hyn eu hamlinellu mewn canllawiau newydd, Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru, sydd hefyd yn rhoi canllawiau ar nodi problemau a'u hachosion, a sut i'w rheoli drwy gymryd camau cadarnhaol lle bynnag y bo modd.

 

Cyflwyno adroddiad y Farwnes Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi

 

Mae'r argymhellion yn adroddiad y Farwnes Andrews ar Ddiwylliant a Thlodi wedi'u datblygu drwy ein rhaglen arloesol Cyfuno: Creu Cyfleoedd drwy Ddiwylliant.  Y nod yw dileu'r rhwystrau i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a rhoi hwb i sgiliau, ymgysylltu, hunan-barch a dyheadau, yn enwedig mewn ardaloedd o anfantais economaidd. Mae Cyfuno wedi galluogi ystod eang o sefydliadau diwylliannol i gyfrannu at agenda wrthdlodi a rennir drwy ddatblygu cyfleoedd cyffrous newydd i bobl sy'n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae'r gwerthusiad o'r Rhaglen wedi dangos bod cyrff diwylliannol yn datblygu dulliau mwy cydlynol a chydweithredol o drechu tlodi.

 

Cam peilot Cyfuno yn 2015-17: sefydlwyd model cyflawni arloesol – Ardaloedd Arloesi. Cyflwynodd 10 clymblaid o sefydliadau diwylliannol a chymunedol ledled Cymru weithgareddau yn cynnwys rhaglenni treftadaeth ddigidol, cynlluniau i annog pobl ifanc a'u teuluoedd i ymweld ag amgueddfeydd, gwirfoddoli a chael profiad gwaith, a phrosiectau yn defnyddio treftadaeth i annog ffyrdd iachach o fyw. Yn ystod y cam peilot, cydweithredodd dros 100 o bartneriaid i gynnig cyfleoedd i dros 5,000 o gyfranogwyr. Yn eu plith roedd:

 

Cyfuno 2017-18: Gan adeiladu ar y cam peilot, mae'r Rhaglen bellach yn cael ei chysoni â pholisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi cymunedau gwydn, gan ganolbwyntio ar dair thema - cyflogadwyedd a sgiliau, cefnogi'r blynyddoedd cynnar, a chefnogi iechyd a llesiant. Ymhlith y mentrau presennol mae Rhaglen Grantiau Her Cyfuno a gafodd ei lansio ym mis Mawrth 2017 a rhaglen drawsnewidiol, Uchelgais Ddiwylliannol, a fydd yn creu 33 o leoliadau hyfforddi 12 mis yn y sector treftadaeth yng Nghymru, gan dargedu pobl ifanc NEET, yn enwedig y rhai o gymunedau difreintiedig.

 

Mae adroddiad Andrews hefyd wedi ysbrydoli mentrau eraill, yn arbennig datblygu cais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am raglen archaeolegol cymunedol mawr i bobl ifanc: ‘Treftadaeth nas Cerir’. Caiff y rhaglen hon ei chyflwyno dros y tair blynedd nesaf gan Cadw mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaethau Archaeolegol a'r Comisiwn Brenhinol

Atodiad 1

 

Dadansoddiad o incwm Cadw dros y tair blynedd diwethaf – mae'r incwm gwirioneddol a gynhyrchwyd wedi rhagori ar dargedau uchelgeisiol bob tro

 

Ffrwd Incwm

Targed 2016-17

Ffigur gwirioneddol 2016-17

Amrywiad

2016-17

 

£

£

%

Tâl Mynediad

3,647,420

3,712,451

1.78%

Manwerthu

1,696,827

1,916,608

12.95%

Aelodaeth

461,000

527,177

14.36%

Hurio Masnachol

293,000

344,894

17.71%

Incwm Ystad

88,746

86,213

(2.85%)

Arall

13,007

16,626

27.83%

CYFANSWM

6,200,000

6,603,969

6.52%

 

Ffrwd Incwm

Targed 2015-16

Ffigur gwirioneddol 2015-16

Amrywiad 2015-6

£

£

%

Cyfanswm y Tâl Mynediad

3,170,554

3,437,320

8.41%

Cyfanswm Manwerthu

1,524,589

1,635,852

7.30%

Cyfanswm Aelodaeth

393,627

438,107

11.30%

Hurio Masnachol

212,790

175,201

(17.66%)

Incwm Ystad

44,816

72,033

60.73%

Arall

15,600

22,299

42.94%

CYFANSWM

5,361,976

5,780,813

7.81%

 

Ffrwd Incwm

Targed 2014-15

Ffigur Gwirioneddol 2014-15

Amrywiad 2014-5

 

£

£

%

Cyfanswm y Tâl Mynediad

2,855,335

3,079,760

7.9%

Cyfanswm Manwerthu

1,557,254

1,524,589

(2.1%)

Cyfanswm Aelodaeth

386,439

393,682

1.9%

Hurio Masnachol

149,618

223,910

49.7%

Incwm Ystad

18,500

41,946

126.7%

Arall

53,500

14,603

(72.7%)

CYFANSWM

5,020,647

5,278,490

5.1%